Cysylltu
Rydym yn awyddus i glywed eich adborth ar ein cynigion ar gyfer siop fwyd gymunedol newydd yn Y Drenewydd. Bydd adborth a gyflwynir cyn dydd Llun 13 Ionawr 2020 yn cael ei adolygu gan dîm y prosiect a’i ystyried cyn cyflwyno’r cynlluniau terfynol i Gyngor Sir Powys.
Bydd ein dulliau ymgynghori a derbyn adborth yn cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn-ymgeisio (Adroddiad PAC), a gyflwynir fel rhan o’r cais cynllunio.
Gallwch gysylltu â ni a gadael eich adborth yn y ffyrdd dilynol:
Ein gwefan ymgynghori, trwy glicio ar y botwm Dweud eich Dweud.
Ffôn: 0800 298 7040
E-bost: feedback@consultation-online.co.uk
Arddangosfa Gyhoeddus
Bydd Aldi yn cynnal arddangosfa gyhoeddus i arddangos y cynigion:
Ar: Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019
Rhwng: 3pm a 7pm
Yn: yr Ystafell Digwyddiadau, Gwesty’r Elephant & Castle, Broad Street, Y Drenewydd, SY16 2BQ
Bydd aelodau tîm y prosiect ar gael i drafod y cynigion yn fanylach ac i ateb cwestiynau a allai fod gennych. Byddwch hefyd yn gallu darparu adborth yn yr arddangosfa gyhoeddus.