Newyddion
Aldi yn cyhoeddi ymgynghoriad ar gyfer cynlluniau siop yn y Drenewydd
02 Rhagfyr 2019
Mae Aldi, yr adwerthwr bwyd disgownt arobryn, yn paratoi cynlluniau i ddod â siop fwyd newydd o ansawdd uchel i’r Drenewydd.
Bydd y cynigion yn golygu y caiff y safle, sef Delwriaeth Geir Ford Greenhous ar Pool Road [Ffordd y Pwll] ar hyn o bryd, ei drawsnewid yn siop fwyd ddeniadol, fodern, â 104 o leoedd parcio ceir gan gynnwys parcio pwrpasol ar gyfer pobl anabl a rhieni a phlant ynghyd â phwyntiau trydanu ar gyfer cerbydau trydan.
Byddai’r siop fwyd newydd nid yn unig yn cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau i’r ardal ond byddai hefyd yn dod â 40 o swyddi newydd i bobl leol a gaiff eu talu ar gyfradd sy’n arwain y diwydiant, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu ac yn y gadwyn gyflenwi.
Fel rhan o’i ymrwymiad i ymgynghori â’r gymuned, mae Aldi yn croesawu’r gymuned leol i arddangosfa gyhoeddus i arddangos ei gweledigaeth ar gyfer y safle:
Ar: Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019
Rhwng 3pm a 7pm
Yn: yr Ystafell Digwyddiadau, Gwesty’r Elephant & Castle, Broad Street, Y Drenewydd, SY16 2BQ
Bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i drafod y cynigion, ateb cwestiynau a derbyn adborth gan y gymuned leol.
Dywedodd llefarydd ar ran Aldi:
“Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein cynlluniau i agor siop fwyd Aldi newydd yn Y Drenewydd. Rydym yn gwybod bod llawer o’n cwsmeriaid yn teithio i’n siop yn y Trallwng – bydd siop leol yn golygu arbed arian yn ogystal ag amser teithio.
“Rydym yn llawn cynnwrf i ddod â’n cynhyrchion arobryn a’n cynnyrch ffres i’r Drenewydd, gan wella dewis cwsmeriaid ar gyfer y gymuned a chreu swyddi lleol y mae eu hangen yn fawr.
“Rydym am glywed gan bobl leol cyn i ni gyflwyno cais cynllunio yn gynnar yn 2020, ac rydym yn annog trigolion i gyfarfod â ni ar ddydd Mercher 11 Rhagfyr yn yr arddangosfa gyhoeddus i gael gwybod rhagor.”
Mae gwybodaeth fanwl ynghylch y cynigion, a’r dulliau y gall trigolion ddarparu eu hadborth ar gael ar wefan y prosiect: aldi-newtown.consultationonline.co.uk/en, neu drwy gysylltu â thîm y prosiect ar y rhif llinell wybodaeth Rhadffôn ar 0800 298 7040, neu e-bostio feedback@consultation-online.co.uk.