Croeso

Cynigion ar gyfer siop fwyd newydd i Aldi yn Y Drenewydd 

Mae Aldi, y manwerthwr bwyd disgownt arobryn, yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer siop fwyd newydd o ansawdd uchel ar dir ychydig oddi ar Pool Road, [Ffordd y Pwll] Y Drenewydd (Delwriaeth Ceir Ford Greenhous ar hyn o bryd).

Byddai’r cynllun yn darparu siop fwyd ddeniadol, fodern Aldi mewn lleoliad cyfleus a hygyrch i drigolion Y Drenewydd, gan gadw mwy o wariant yn lleol ac yn cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn yr ardal. Byddai siop newydd yn y lleoliad hwn yn gwella’r dewis i gwsmeriaid a lleihau’r angen i gwsmeriaid deithio ymhellach.

Os bydd y cais yn derbyn caniatâd cynllunio, byddai’r cynnig yn creu hyd at 40 o swyddi lleol newydd yn y siop, a delir ar gyfradd sy’n arwain y diwydiant o £9.10 yr awr o leiaf. Hefyd byddai cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu ac yn y gadwyn gyflenwi

Fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, sbardunodd Aldi y cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio o 28 diwrnod ar ddydd Llun 02 Rhagfyr 2019 ar gyfer y cynnig hwn.

Gallwch ddarllen gwybodaeth fanwl ynghylch y cynigion yn ogystal â’r dogfennau cynllunio drafft yn yr adran Dogfennau a Lawrlwythiadau.

Bydd Aldi yn cyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Sir Powys yn gynnar yn 2020. Edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau a’ch adborth ar ein cynigion.

Arddangosfa Gyhoeddus

Byddwn yn cynnal arddangosfa gyhoeddus i arddangos y cynlluniau a chymryd adborth gan y gymuned leol. Byddem wrth ein bodd pe gallech fynychu:

Ar: Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019

Rhwng: 3pm a 7pm

Yng: yr Ystafell Digwyddiadau, Gwesty’r Elephant & Castle, Broad Street, Y Drenewydd, SY16 2BQ

Bydd aelodau tîm y prosiect ar gael i drafod y cynigion yn fanylach ac i ateb cwestiynau a allai fod gennych. Byddwch hefyd yn gallu darparu adborth yn yr arddangosfa gyhoeddus.

Rydym yn awyddus i glywed eich adborth ar ein cynigion ar gyfer siop fwyd gymunedol newydd yn Y Drenewydd. Manylir ar ffyrdd y gallwch ddarparu eich adborth ar ein tudalen Gysylltu , neu gallwch ddarparu adborth ar-lein drwy’r dudalen Dweud eich Dweud.