Ein Cynnig
Mae gwybodaeth fanwl ar gael yn y dogfennau cynllunio drafft sydd ar gael i’w gweld neu eu lawrlwytho ar ein tudalen Dogfennau a Lawrlwythiadau.
Ynglŷn â’r cynigion:
- Siop fwyd Aldi newydd o faint cymedrol ag arwynebedd gwerthu o 1,332m2
- Mynediad ac allanfa oddi ar Lôn Wern Ddu i orllewin y safle, allanfa arall i ddwyrain y safle â mynediad ar wahân ar gyfer cerbydau danfon o Barc Menter Dyffryn
- Siop newydd mewn lleoliad cyfleus a fyddai’n lleihau’r angen i gwsmeriaid deithio ymhellach i ffwrdd
- Parcio am ddim i gwsmeriaid ar gyfer 104 o geir, gan gynnwys chwe lle i bobl anabl, naw lle i rieni a phlant a dau bwynt trydanu ar gyfer cerbydau trydan
- Mannau parcio pwrpasol ar gyfer beiciau a beiciau modur
- Yn creu hyd at 40 o swyddi newydd a fydd yn cael eu talu ar gyfradd sy’n arwain y diwydiant ac sy’n uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol
- Cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu ac yn y gadwyn gyflenwi
- Tirlunio deniadol wedi’i ymgorffori o amgylch y safle er mwyn gwella ei apêl
Priffyrdd, mynediad a pharcio
Bydd gan y cynnig 104 o leoedd parcio, gan gynnwys chwe lle i bobl anabl a naw lle i rieni a phlant ar gyfer cwsmeriaid Aldi.
Bydd cerbydau cwsmeriaid yn cyrchu’r siop trwy Lôn Wern Ddu, tra bydd gan gerbydau danfon bwynt mynediad ar wahân o Barc Menter Dyffryn. Bydd y fynedfa bresennol o Pool Road yn cael ei hailddatblygu’n llwybr troed cyhoeddus newydd ar hyd y ffordd.
Bydd cerddwyr yn gallu cyrchu’r siop trwy Lôn Wern Ddu a Pharc Menter Dyffryn, â llwybrau diogel i gerddwyr trwy gydol y safle.
Bydd cerbydau cwsmeriaid yn cyrchu’r siop trwy Lôn Wern Ddu, tra bydd gan gerbydau danfon bwynt mynediad ar wahân o Barc Menter Dyffryn. Bydd allanfa ychwanegol i’r chwith yn unig i Barc Menter Dyffryn hefyd. Bydd y fynedfa bresennol o Pool Road yn cael ei hailddatblygu’n llwybr troed cyhoeddus newydd ar hyd y ffordd.
Mae rhagor o wybodaeth fanwl ategol ac adroddiadau ymgynghorwyr ynghylch y trefniadau traffig, mynediad a pharcio wedi’u cynnwys yn y dogfennau sydd ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho yma.
Dyluniad cyfoes
Ein cynnig yw darparu siop fwyd ddeniadol o ansawdd uchel ar gyfer cymuned Y Drenewydd.
Er mwyn sicrhau ymddangosiad ardderchog dros y tymor hir, mae Aldi yn defnyddio deunyddiau o ansawdd uchel y tu mewn a’r tu allan i’w adeiladau. Bydd y siop Aldi newydd yn defnyddio cyfuniad o gladin llwyd glo carreg ac arian metalig â phlinth gwaith briciau siarcol. Bydd ganddi elfennau mawr o wydr ar hyd y gweddlun gorllewinol a ffenestri rhuban lefel uchel i’r gweddlun deheuol, ynghyd â chanopi metal cywasgedig cyfoes.